Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Allanol |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 7 Rhagfyr 2020 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.25 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AS (Cadeirydd) Suzy Davies AS Rhun ap Iorwerth AS David J Rowlands AS Joyce Watson AS
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Eleanor Mulligan, Uwch Reolwr Dysgu ac Ymgysylltu â’r Aelodau Mark Neilson, Pennaeth TGCh a Dalledu Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd.
2 Cyllideb Atodol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2020-21
Trafododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2020-21 a’r argymhelliad ar gyfer cyllideb atodol mewn perthynas â’r cyfrifiad costau cyllid pensiwn IAS19 canol y flwyddyn (£0.4 miliwn) a chynnydd disgwyliedig yn y ddarpariaeth gwyliau blynyddol a gronnwyd (£1.3 miliwn).
Cytunodd y Comisiynwyr i gyflwyno Cyllideb Atodol i'w chynnwys yn nhrydydd cynnig cyllideb Llywodraeth Cymru. Cytunwyd ar y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig a’r llythyr at y Pwyllgor Cyllid.
3 Pontio dros gyfnod yr etholiad
Trafododd y Comisiynwyr y sefyllfa o ran bwriad y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth yn y flwyddyn newydd yn ymwneud ag etholiad 2021. Byddai'r ddeddfwriaeth yn debygol o ddefnyddio'r weithdrefn frys oherwydd yr amser sydd ar gael. Y disgwyl oedd y byddai'r ddeddfwriaeth yn cynyddu'r cyfnod y gellid amrywio'r etholiad, a byddai'n debygol o gynnig lleihau hyd Diddymu’r Senedd, a fyddai'n cael ei ddatgysylltu o'r cyfnod cyn yr etholiad.
Trafododd y Comisiynwyr yr amserlenni a'r goblygiadau a ragwelir ar gyfer y Comisiwn, gan gynnwys y goblygiadau ar gyfer y penderfyniadau a wnaed eisoes ynghylch mynediad at adnoddau yn ystod y broses Ddiddymu.
3.a Croeso, Cynefino a Dysgu
Trafododd y Comisiynwyr drosolwg o'r trefniadau croesawu a chynefino arfaethedig ar gyfer Aelodau a'u staff yn dilyn etholiad y Senedd yn 2021; a hefyd argymhellion ar gyfer rhaglen ddysgu Aelodau a staff cymorth yn y Chweched Senedd. Fe wnaethant nodi gwybodaeth am ddehongli’r Rheolau Sefydlog i alluogi cymryd llw o bell a newidiadau arfaethedig i basys diogelwch ar gyfer priod/partner.
Nododd y Comisiynwyr y trefniadau croesawu a chynefino arfaethedig, gan gydnabod y sylfeini cryf ar gyfer y ddarpariaeth, a’r cyfeiriad cyffredinol a’r dull amlinellol ar gyfer rhaglen ddysgu’r Aelodau yn y Chweched Senedd.
Trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd elfennau o'r pecyn cynefino a hyfforddi, a cytunwyd y dylid eu hystyried yn gynnwys hanfodol, yn enwedig y Cod Ymddygiad, Urddas a Pharch, y Rheolau ar Ddefnyddio Adnoddau, cyfrifoldebau fel cyflogwr ac fel rheolydd data, a seiber-ddiogelwch.
3.b Dyraniad TGCh yr Aelodau
Cyflwynwyd opsiynau ac argymhellion i’r Comisiynwyr ar gyfer dyrannu Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i Aelodau a'u staff cymorth yn y Chweched Senedd. Cododd y Comisiynwyr nifer o bwyntiau i'w hegluro, a thrafodwyd y dulliau ar gyfer gwaredu offer nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach.
Cytunwyd y byddai fersiwn fyrrach o'r papur yn cael ei thrafod gyda'r Comisiynwyr bob yn un, fel y gallent ddarparu adborth ysgrifenedig gan eu grwpiau am ddyraniad TGCh arfaethedig yr Aelodau ar gyfer y Chweched Senedd, gan gofio bod angen bod yn ddarbodus wrth ddefnyddio arian cyhoeddus.
3.c Asedau’r Senedd
Cafodd y Comisiynwyr bapur yn rhoi gwybod iddynt am y dull arfaethedig o ddefnyddio a dychwelyd asedau'r Senedd yn ystod y cyfnod o Ionawr 2021 a thrwy’r etholiad gan gynnwys y trefniadau dirwyn i ben ar gyfer Aelodau na chânt eu hail-ethol.
Cytunodd y Comisiynwyr ar y dull o drin asedau'r Senedd fel rhan o drefniadau dirwyn i ben yr Aelodau:
· Dylid dychwelyd pob eitem a all roi gwerth am arian drwy gael ei hailddefnyddio neu ei hail-bwrpasu gan y Comisiwn.
· O ran eitemau eraill, lle byddai costau ychwanegol neu bwysau adnoddau (e.e. anghenion storio) yn anghymesur neu’n methu â rhoi gwerth am arian, dylai’r Aelod dan sylw gael gwared arnynt, a dylid cytuno ar y dull ar gyfer gwneud hynny drwy ei gynllun dirwyn i ben.
· Dylid cael gwared ar eitemau mewn modd cynaliadwy (ail-bwrpasu/ailgylchu) ac ni ddylai’r Aelod na'i staff elwa’n bersonol o ganlyniad i hynny.
Nododd y Comisiwn y materion a godwyd mewn perthynas â chanfyddiadau’r cyhoedd o ddefnydd darbodus o adnoddau yn y cyfnod cyn yr etholiad, a’r angen i ddangos egwyddorion gwerth am arian ym misoedd olaf y Pumed Senedd a’r cyfnod dirwyn i ben.
4 Arolwg yr Aelodau a’u staff cymorth 2020
Gwelodd y Comisiynwyr ganlyniadau arolwg yr Aelodau a’u staff cymorth 2020, a nodwyd y byddai’r data o’r arolwg yn cyfrannu at ddau Ddangosydd Perfformiad Allweddol yn Adroddiad Blynyddol 2020-21 y Comisiwn. Gwnaethant drafod gwerth clywed barn yr Aelodau gan ddefnyddio’r arolwg gan gytuno y dylai barhau i gael ei ddefnyddio fel un o'r ffyrdd o gael adborth. Gan gydnabod y gyfradd ymateb isel yn yr arolwg hwn, myfyriodd y Comisiynwyr y byddai'n rhesymol tybio bod pobl sy'n anhapus â gwasanaethau yn fwy tebygol o flaenoriaethu llenwi arolwg o'r fath na’r rhai a oedd yn fodlon.
Nododd y Comisiynwyr ganlyniadau’r arolwg a chytunwyd i rannu adroddiad ar y canlyniadau yn y ffyrdd arferol; ac i rannu crynodeb o'r canfyddiadau perthnasol â’r Bwrdd Taliadau.
5 Diweddariad ynghylch COVID-19
Clywodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau sydd ar waith tra bod y Senedd yn parhau i weithredu o dan reoliadau a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru, a chafwyd sicrwydd bod y gwaith monitro ar gyfer y camau nesaf wrthi’n cael ei wneud.
6 Papurau i'w nodi:
6.a Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau o ran recriwtio, sy’n cael ei ddarparu i bob cyfarfod o’r Comisiwn.
6.b Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20
Nododd y Comisiynwyr adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gyhoeddwyd ar 26 Tachwedd, a chytunwyd y dylai deiliad y portffolio gytuno ar yr ymateb y tu allan i’r cyfarfod.
7 Unrhyw fater arall
Dywedodd un Comisiynydd fod y penderfyniadau a wnaed ym mis Mehefin ynghylch mynediad cyn-Aelodau at adnoddau’r Comisiwn yn ystod y cyfnod pan fydd y Senedd yn cael ei Diddymu wedi arwain at rai ymholiadau gan aelodau eu grŵp. Egwyddor graidd y broses benderfynu honno oedd darparu ar gyfer etholiad rhydd a theg.
Yng ngoleuni'r potensial ar gyfer newid y cyfnod Diddymu trwy ddeddfwriaeth frys arfaethedig y Llywodraeth, nododd y Llywydd y gallai fod angen ailedrych ar y mater a gofyn am adborth gan y Comisiynwyr.